Yn ôl cyn chwaraewr i’r Crysau Duon sydd bellach yn chwarae i’r Gleision yng Nghaerdydd, bydd creithiau meddyliol o golli ugain gêm yn olynol dros gyfnod o 56 mlynedd yn ormod i’r Cymry dydd Sadwrn.
Wrth siarad â gwasanaeth newyddion NZPA, dywedodd Xavier Rush nad oedd chwaraewyr Cymru yn barod yn feddyliol i guro Seland Newydd, er bod ganddyn nhw gyfle da ar ôl i’r Crysau Duon golli pedair gêm brawf yn ddiweddar.
Dywedodd yr wythwr y byddai’n rhaid i Gymru fod ar eu cryfaf i ennill, ac mai colli’r mewnwr Mike Phillips a’r cefnwr Lee Byrne oherwydd anafiadau – chwaraewyr sy’n gallu troi gêm yn ei farn ef – yn ogystal â cholled y prop Adam Jones, fydd y gwahaniaeth allweddol.
Seicolegydd
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn dweud fod seicolegydd ar gael i chwaraewyr Cymru er mwyn eu cefnogi’n feddyliol cyn y gêm.
Mae hefyd wedi ceisio siglo’r Crysau Duon drwy ddweud fod modd eu curo gan eu bod wedi colli’r teimlad anorchfygol a oedd yn arfer bod o’u cwmpas.
Ond dywedodd Xavier Rush bod y Cymry’n dueddol o weld y Crysau Duon fel “gelyn na all gael ei guro,” ac yn ei chael hi’n “her feddyliol anodd i fynd allan yna a’u curo nhw gan ei bod hi wedi bod mor hir”.
“Maen nhw wedi dod yn llawer agosach dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai, “ond fyddwn i ddim yn dweud eu bod nhw’n ddigon da eto i faeddu’r Crysau Duon.”