Mae Mickey Mouse a’i griw ar y ffordd i China ar ôl i gynllunwyr gymeradwyo cynlluniau i adeiladu parc antur anferth newydd yn Shanghai.
Mae’r Comisiwn Diwygio a Datblygiad Cenedlaethol wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu parc antur Disney World yn ninas fwyaf China.
Mae parciau tebyg eisoes yn California, Florida, Tokyo, Paris, a Hong Kong.
Ar hyn o bryd mae Disney’n gweithio ar gadarnhau manylion terfynol y parc yn nwyrain ardal Pudong.
“Mae China yn un o’r gwledydd mwyaf deinamig, cyffrous a phwysig yn y byd,” meddai Roger Iger, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Disney. “Mae cymeradwyo’r parc yn garreg filltir i gwmni Walt Disney ar dir mawr China.”
Yn ôl y cwmni, y cam cyntaf fydd adeiladu “teyrnas hudolus â chymeriadau wedi’u teilwra’n arbennig i ardal Shanghai”. Bydd cyfleusterau eraill y parc yn gyson â pharciau antur Disney o amgylch y byd.