Fe allai’r gwasanaeth post wynebu rhagor o streiciau, a’r rheiny’n hirach, yn ôl arweinydd undeb.
Dywedodd Billy Hayes, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, y CWU, bod yna “bosibilrwydd” y bydd y gweithredu diwydiannol yn cael ei ymestyn ar ôl i drafodaethau fethu.
Datgelodd Billy Hayes bod yr undeb hefyd yn agos at wneud penderfyniad ynglŷn â chymryd achos cyfreithiol yn erbyn y Post Brenhinol am gyflogi 30,000 o weithwyr ychwanegol i symud y post sydd wedi cronni oherwydd y streic.
Daeth ei rybudd wrth i’r gyfres ddiweddara’ o streiciau undydd ddechrau, gan darfu’n sylweddol ar y gwasanaeth am yr ail waith y mis yma.
Mae llinellau piced tu allan i ganolfannau post ledled y Deyrnas Unedig, meddai’r undeb, gyda gweithwyr yn cefnogi’r streic “yn gryf”.
Post y Nadolig
“Fyddwn ni ddim gostegu pethau,” meddai Billy Hayes. “Mae yna bob posibilrwydd y byddwn ni’n ymestyn y gweithredu ac yn edrych ar streiciau hirach.”
Fe allai hynny olygu parhau tros gyfnod y post Nadolig os na fydd datrys ar yr anghydfod dros swyddi, tal a moderneiddio.
Fe fydd hyd at 120,000 o weithwyr undeb ar streic dros y tridiau nesa’ ar ôl methiant y trafodaethau ar ôl tridiau o gyfarfodydd.
Mae’r undeb yn honni y gallai cynlluniau’r Post Brenhinol i ddiwygio’r gwasanaeth olygu bod 60,000 o weithwyr yn colli eu swyddi.