Fe fydd streiciau’r gweithwyr post yn digwydd dros y tridiau nesa’ wedi i’r trafodaethau fethu rhwng y ddwy ochr.

Fe fu’r trafod yn digwydd trwy’r dydd am y trydydd diwrnod  rhwng swyddogion y Post Brenhinol ac Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, y CWU, ond fe ddaethon nhw i ben heb gytundeb ddiwedd y prynhawn.

Wedi hynny, fe gyhoeddoddd yr undeb y byddai’r streiciau’n digwydd ac y bydden nhw yn cynnwys tua 120,000 o weithwyr dros y tridiau.

Y bwriad yw cael streic o weithwyr y canolfannau a gyrwyr fory, gweithwyr arbenigol sy’n delio â phecynnau anodd ddydd Gwener a’r postmyn ddydd Sadwrn.

Yn ôl y Post Brenhinol, os bydd y streiciau’n digwydd, fe fydd gweithredu dydd Iau yn cael rhywfaint o effaith ar bost cyffredin a gweithredu dydd Sadwrn yn ei atal bron yn llwyr. Ddylai gweithredu dydd Gwener ddim effeithio ar y rhan fwya’ o’r post, medden nhw.

Yn y cyfamser mae’r Ysgrifennydd Busnes, Peter Mandelson, wedi galw ar y ddwy ochr i fynd yn ôl i gytundeb cynharach ynglŷn â moderneiddio’r gwasanaeth.