Dylan Iorwerth sy’n gofyn pam y byddai unrhyw un am weld Tony Blair yn Arlywydd ar Ewrop…
Allwch chi ddeall yn iawn pam bod Gordon Brown yn cefnogi Tony Blair yn ei gais i fod yn Arlywydd ar yr Ewrop Newydd.
Mae’r Prif Weinidog presennol siŵr o fod eisio anfon yr hen un mor bell i ffwrdd â phosib. Pe bai Siberia’n chwilio am Arlywydd, mi fyddai Gordon yn ei gefnogi ar gyfer y swydd honno hefyd.
Mae’n fwy anodd deall pam y byddai neb arall am ei weld yn y swydd – ar wahân i’r colofnydd o Gymru, George Monbiot, sy’n gweld cyfle i fynd ar ei ôl am droseddau rhyfel.
I’r gweddill ohonon ni, mi fu’r ddwy flynedd ddiwetha’n ddigon braf, heb orfod gwrando ar lais gor-ddiffuant ac edrych ar actio digywilydd y bambi a drodd yn hebog. Heb sôn am y sowndbeits rhy fwriadol.
Ond mae yna resymau llawer mwy difrifol tros wrthwynebu gorseddu Blair.
Mae yna reswm Ewropeaidd. Sut allech chi gael dyn yn arwain trefn fasnachol a chymdeithasol yr oedd ef ei hun wedi gwrthod ymuno â’i harian hi ac wedi cadw allan o rai o’r prif ddarpariaethau eraill?
Mae yna reswm Americanaidd. Arweinydd cry’ sydd eisiau, meddai cefnogwyr Tony Blair. Yn hollol, nid un sy’n neidio i mewn i boced gwasgod yr Americaniaid.
Mae yna reswm byd-eang. Angen cyfannu sydd. Beth fyddai’r neges i wledydd Moslemaidd, er enghraifft, pe bai’r rhyfelwr mawr yn dod i gynrychioli talp anferth o’r byd?
Felly, pam fyddai neb – heblaw Brown – am weld Blair yn Arlywydd ar yr Undeb Ewropeaidd? A thybid pam bod Blair ei hun yn awyddus i wneud y gwaith?
Fel gyda’i swydd arall, yn gennad heddwch yn y Dwyrain Canol, mae ei ffydd yn ei allu ei hun i berswadio pobol yn syfrdanol. Ac, yn amlwg, yn anghywir.
O feddwl am y Dwyrain Canol, fyddai hi ddim yn well iddo orffen y job honno gynta’?