Mae’n debyg bod cwmnïau cardiau a rhai busnesau arlein yn “brysurach” a hynny ynghynt na’r arfer y Nadolig hwn.

Ond mae’r oedi’n achosi pryder a rhai’n credu y bydd y streiciau’n gwneud niwed i’r Post Brenhiol yn y tymor hir.

Fe fu Golwg360 yn holi sampl o fusnesau …

‘Prysurach’

Mae’n ”brysurach” o ganlyniad i’r streic bost ond mae’r anghydfod yn debyg o ddal pethau’n ôl hefyd, yn ôl Alan Eggington o Cwmni Cardiau Cymraeg yn Aberystwyth.

“Rydan ni’n brysurach heb os; mae pobol wedi penderfynu archebu eu cardiau Nadolig yn barod.”

Er hyn, dywedodd eu bod “efallai’n fwy lwcus yn Aberystwyth” na busnesau eraill mewn dinasoedd fel Manceinion a Bryste, ble mae’r tagfeydd post yn waeth.

“Mae’r gwasanaeth post yn gwneud pethau yn anodd iddyn nhw’u hunain ers blynyddoedd. Mae gymaint mwy o bobol yn prynu cynnyrch ar-lein,” meddai.

“Byddai rhywun yn meddwl y gallai’r Post fabwysiadu agwedd fusnes mwy positif rhywsut.”

‘Poeni’

Dywedodd cynorthwy-ydd siop Gymraeg Na-nôg yng Nghaernarfon ei bod yn “poeni” am effaith y streic bost ar “fusnes gwe” y siop dros y Nadolig.

“Mae pobol yn ffonio’n gynt i wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n dioddef o ganlyniad i’r streic,” meddai Karen Vaughan, cynorthwydd siop Na-nôg.

Dywedodd bod peth oedi wedi bod eisoes, ond mai cydweithio â chwsmeriaid oedd yn bwysig: “Dydan ni ddim eisio gadael cwsmeriaid i lawr chwaith – mae’n rhaid i ni geisio cydweithio â chwsmeriaid ac egluro’r sefyllfa iddyn nhw ar y ffôn,” meddai.

‘Colli a difrodi’

Dywedodd cwmni Adra yn Llandwrog – sy’n gwerthu cardiau a chynnyrch Cymreig ar y we – nad oedd y streic wedi effeithio arnyn nhw “ar y funud” ond “fod pobol wedi dechrau archebu anrhegion yn barod”.

“Yn fwy na dim, poeni am eitemau yn mynd ar goll neu’n cael eu difrodi yn y dagfa bost cyn y Nadolig ydw i, gan ein bod ni wedi cael problemau efo’r Post Brenhinol yn y gorffennol,” meddai’r perchennog, Angharad Gwyn.