Dim ond dau o gynghorau Cymru sy’n rhoi digon o sylw i blant carcharorion, meddai adroddiad gan elusen.
Dyw’r 20 arall ddim hyd yn oed yn cyfeirio atyn nhw o gwbl yn eu cynlluniau gofal plant, yn ôl Barnardos.
Mae hynny er bod y Llywodraeth yn eu nodi ymhlith plant bregus ac er eu bod yn llawer mwy peryg o fynd i dorri’r gyfraith eu hunain a chael problemau eraill.
Yn ôl yr adroddiad, ‘Every Night You Cry’, mae dau o bob tri bachgen sydd â rhiant yn y carchar yn debyg o fynd i helynt ac o droseddu eu hunain.
Mae’r 160,000 o blant trwy’r Deyrnas Unedig sydd â rhieni yn y carchar ddwywaith yn fwy tebyg o ddiodde’ o salwch meddwl na phlant eraill.
Meddai’r adroddiad: “Does dim amheuaeth fod y plant yma’n grŵp sydd ‘mewn peryg’ a thrwy fethu â lliniaru effaith carcharu rhiant ar blant rydyn ni’n methu â thorri’r cylch – nid yn unig o ymddygiad troseddol ond hefyd o amrywiaeth o broblemau eraill.”
Yr argymhellion
Mae Barnardo’s yn awgrymu sawl ateb:
• Y dylai Llywodraeth y Cynulliad lunio memorandwm dealltwriaeth gyda’r cyrff a’r asiantaethau yn y maes.
• Bod angen casglu gwybodaeth yn systematig am blant o’r fath er mwyn gallu adnabod y problemau a’u hystyried.
• Y dylai llysoedd gael gwybod wrth ddedfrydu beth fydd effaith carcharu ar blant.
• Bod eisiau cyhoeddi arweiniad i sicrhau bod anghenion y plant yn cael eu cwrdd.
Llun: O glawr yr adroddiad