Mae nifer y ffetysau sydd â syndrom Down’s ym Mhrydain wedi cynyddu, meddai meddygon yn y British Medical Journal.

Mae’n arwydd, medden nhw, bod mwy o ferched yn beichiogi’n hwyrach yn eu bywydau – pan fyddan nhw yn eu 30au hwyr a’u 40au.

Er hyn, mae llai o fabanod yn cael eu geni gyda’r cyflwr gan fod 9 ym mob 10 o ferched (mwy na 92%) yn penderfynu erthylu os yw’r cyflwr ar eu ffetws.

I ferched 30 blwydd oed, mae’r risg o gael ffetws gyda Down’s yn un mewn 940. Ond, erbyn 40 blwydd oed, mae’r risg yn cynyddu i un ym mhob 85.

Tri ffetws pob dydd

Rhwng 1989 a 2008, mae nifer y ffetysau â Downs wedi codi 71% ac mae’r ymchwil ddiweddaraf yn dangos fod 1,100 o fabanod yng Nghymru a Lloegr yn cael ei herthylu bob blwyddyn oherwydd hynny. Mae hynny’n dri ffoetws pob dydd.

Dywedodd Carol Boys o’r Down’s Syndrome Association wrth bapur y Daily Telegraph: “Mae’n hynod bwysig fod teuluoedd yn mynd drwy’r broses sgrinio a’u bod yn cael gwybodaeth ddigonol am syndrom Down’s.”