Fe fydd miloedd o weithwyr British Airways yn ystyried mynd ar streic tros gytundebau newydd.

Dywedodd undeb Unite y bydd 14,000 o’i aelodau yn pleidleisio ar weithredu diwydiannol.

Roedd staff y cabanau eisoes wedi penderfynu cynnal cyfarfod brys dydd Llun nesaf i ystyried gwrthwynebu cynlluniau i dorri swyddi, i rewi tâl a chynnig cyflogau gwaeth i staff newydd.

Mae disgwyl i filoedd o weithwyr fynd i’r cyfarfod yn Surrey, sy’n digwydd bythefnos cyn i’r toriadau ddechrau.

‘Dim dewis’

“Dyw penderfyniad rheolwyr BA i orfodi newidiadau annerbyniol mewn cytundebau ddim yn rhoi unrhyw ddewis i ni ond streicio,” meddai Derek Simpson, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Unite.

“Fe fyddwn ni’n cefnogi ein haelodau’n gry’ os ydyn nhw’n pleidleisio am weithredu diwydiannol, er ein bod ni wrth gwrs yn barod i drafod gyda’r cwmni. Trafodaeth, nid gorfodaeth, yw’r ffordd gywir o gynnal cydberthynas ddiwydiannol.”

Siom

Dywedodd BA eu bod nhw’n “siomedig” gyda’r penderfyniad i bleidleisio. “Ein criwiau caban ni sy’n cael eu talu orau yn y wlad o dipyn,” meddai’r cwmni.

Mae BA wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri tua 3,700 o staff, ar ben y toriadau o tua 2,500 oedd rhwng mis Mehefin 2008 a Mawrth 2009.

Maen nhw’n dweud bod angen torri costau oherwydd y dirwasgiad.