Mae Prif Weithredwr y Post Brenhinol yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd trafodaethau newydd yn atal streiciau pellach.
Dywedodd Adam Crozier ei fod yn gobeithio y bydd synnwyr cyffredin yn trechu pan fydd arweinwyr Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu yn ail ddechrau trafod gyda phenaethiaid y cwmni ddydd Llun.
Mae hyd at 120,000 o staff y Post Brenhinol yn paratoi at gynnal streiciau pellach ddydd Iau, Gwener a Sadwrn yr wythnos nesa’ oherwydd yr anghytuno dros swyddi, tâl a moderneiddio’r gwasanaeth.
Wrth siarad ar raglen Andrew Marr ar y BBC, fe ddywedodd Adam Crozier bod yna lawer o ddryswch ynglŷn â’r dadlau. Ond roedd hefyd yn pwysleisio’r angen i foderneiddio’r gwasanaeth.
Mae staff y Post Brenhinol yn poeni y byddai gwella effeithiolrwydd yn golygu toriadau mewn swyddi.
Doedd Adam Crozier ddim yn gallu dweud faint o swyddi fyddai’n cael eu colli o fewn y gwasanaeth yn y dyfodol, oherwydd bod hynny’n ddibynnol, meddai, ar beth fyddai’n digwydd i’r busnes post.
Fe gadarnhaodd bod diffyg ariannol pensiwn y cwmni tua £10 biliwn.
Llun: Adam Crozier, Prif Weithredwr y Post Brenhinol.