Fe fydd trafodaethau newydd yn digwydd ddydd Llun i geisio datrys anghydfod y gwasanaeth post.
Fe ddaeth yn amlwg fod Cyngres yr Undebau Llafur, y TUC, wedi cytuno i wahodd y ddwy ochr at ei gilydd.
Mae’n ymddangos hefyd bod rheolwyr y Post Brenhinol ac Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, y CWU, wedi cysylltu â’r Gyngres yn gofyn am eu help.
Y ffigwr allweddol yw Brendan Barber, Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC – roedd ganddo ran allweddol mewn datrys anghydfod arall rhwng y ddwy ochr yn 2007.
Rheolwr Gyfarwyddwr yn y trafodaethau
Mae’r Undeb yn dweud fod ganddyn nhw addewid y bydd Rheolwr Gyfarwyddwr y Post yn rhan o’r trafodaethau – roedden nhw wedi gofyn am gael trafod gydag uchel swyddogion.
Roedd yr anghydfod – tros batrymau gwaith, swyddi a chyflog – wedi arwain at ddwy streic ddiwrnod yr wythnos hon ac mae bygythiad i gynnal tair arall yr wythnos nesa’.
Mae’r Post Brenhinol yn ceisio cael cytundeb y CWU i wneud newidiadau sylfaenol yn y diwydiant, er mwyn addasu at sialensau’r dyfodol.
Mae’r Ysgrifennydd Busnes, Peter Mandelson, wedi croesawu’r newyddion.
Llun: Picedwyr adeg y streic ddydd Iau (Gwifren PA)