Mae tua hanner pobol gwledydd Prydain yn credu fod buddugoliaeth yn rhyfel Afghanistan yn amhosibl, yn ôl arolwg barn newydd.
Mae’r mwyafrif llethol – cyfanswm o 84% – yn credu nad yw milwyr Prydain yn ennill y rhyfel ar hyn o bryd ac mae mwyafrif llai hefyd yn credu y dylen nhw ddod yn ôl adre’.
Fe gafodd arolwg YouGov i Newyddion Channel 4 ei gyhoeddi wrth i tua 5,000 o ymgyrchwyr yn erbyn y rhyfel ymgynnull yn Llundain.
Roedd y protestwyr yn galw ar y Llywodraeth i ddod â’r fyddin Brydeinig o 9,000 o filwyr yn ôl o Afghanistan.
Y ffigurau
Yn yr arolwg barn:
• Dim ond 6% oedd yn credu fod milwyr Prydain yn ennill y rhyfel.
• Roedd 36% arall yn credu nad oeddent nhw’n ennill y rhyfel ar hyn o bryd ond fod buddugoliaeth yn bosibl yn y pen draw.
• Roedd 48% yn credu fod buddugoliaeth yn amhosibl.
Roedd 25% o’r atebwyr yn credu y dylai’r milwyr gael dod adref yn syth a 37% arall yn credu y dylen nhw ddod adref mewn blwyddyn.
Yr wythnos diwethaf, fy ddywedodd Gordon Brown ei fod yn barod i yrru 500 yn rhagor o filwyr i Afghanistan.
Roedd You Gov wedi holi 2,042 o oedolion ddoe ac echdoe.