De Affrica yw’r drydedd wlad i ddewis Cymru yn gartref i baratoi ar gyfer Gêmau Paralympaidd Llundain yn 2012.

Mae Cydffederasiwn Chwaraeon a Phwyllgor Olympaidd De Affrica wedi cadarnhau y bydd tîm De Affrica yn dod i Gaerdydd i hyfforddi, gan ddilyn esiampl Awstralia a Seland Newydd.

Dywedodd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ei fod yn “hapus iawn” fod tîm Paralympaidd De Affrica yn dod: “Rwy’n gwybod y bydd eu hathletwyr yn derbyn croeso cynnes Cymreig” meddai.

‘Ugain y cant’

Dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth fod y cyhoeddiad yn dod â “rhagor o newyddion da ac yn adlewyrchu safon ragorol y cyfleusterau yma yng Nghymru.”

O’r 16 gwlad sydd wedi llofnodi cytundebau â gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig i sefydlu gwersylloedd cyn y Gêmau Olympaidd, dywedodd Alun Ffred fod bron i “ugain a chant” yn dod i Gymru.

“Mae hyn yn golygu fod tua 500 o aelodau’r tîm yn mynd i ddod yma i Gymru cyn y gemau Paralympaidd” dywedodd.

‘Ysbryd y tîm’

“Yn y gwersyll hwn yng Nghaerdydd, byddwn yn gallu meithrin ymddiriedaeth, ac ysbryd y tîm o’r cychwyn cyntaf” meddai Gideon Sam o Gydffederasiwn Chwaraeon a Phwyllgor Olympaidd De Affrica.

Mae’n debygol y bydd tîm De Affrica yn cynnwys nifer o athletwyr Paralympaidd amlwg, fel Oscar ‘Blade runner’ Pistorius, sy’n dal record y byd yn y 100, 200 a’r 400 metr, a’r nofwraig Natalie De Toit.