Mae’n debyg bod 30 miliwn o lythyrau eisoes wedi eu hatal oherwydd y streic bost ac mae’r undeb wedi cadarnhau y bydd y streic nesa’n dechrau ddydd Iau.

Yn ôl y Post Brenhinol, mae’r pentwr sydd ar ôl yn cyfateb i tua 40% o’r post sy’n cael ei ddanfon bob dydd.

Yn ôl Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, y CWU, roedd “cefnogaeth gadarn” i’r streic gan y cyhoedd ac undebau eraill.

Fe fydd y nesa’ yn parhau am dridiau, medden nhw, ac yn cynnwys mwy na 120,000 o weithwyr.

Dadl rhwng y gweithwyr a rheolwyr y Post Brenhinol ynglŷn â swyddi, tâl a moderneiddio yw achos yr anghydfod.

Mae’r undeb wedi dweud eu bod yn barod am drafodaethau “diamod” gyda’r rheolwyr drwy’r gwasanaeth cymodi, ACAS.

‘Anonest’

Ond mae Mark Higson, Rheolwr Gyfarwyddwr y Post Brenhinol wedi beirniadu’r penderfyniad i gynnal streic arall, ond gan ddweud nad yw’n “syndod”.

“Mae unrhyw honiad gan yr undeb eu bod yn gofalu am ddyfodol cwsmeriaid neu am ddyfodol y gwasanaeth post erbyn hyn yn amlwg yn gwbl anonest,” meddai.

Dywedodd fod y ddwy ochor wedi cytuno nos Fawrth, ond nad oedd yr undeb wedi arwyddo’r cytundeb hwnnw.

Dywedodd ei bod yn “gwbl warthus” fod yr undeb yn cyhuddo’r cwmni o dorri cytundeb. “Yr undeb a gerddodd i ffwrdd,” meddai.

Cynigiodd gyfarfod â’r undeb i lofnodi’r hyn a gytunwyd nos Fawrth.