Fe gadarnhaodd undeb y gweithwyr post y bydd rhagor o streiciau yn digwydd yr wythnos nesa’.
Fe fyddan nhw’n dechrau ddydd Iau ond dyw’r union hyd ddim wedi ei ddatgelu eto, na pha garfanau o weithwyr fydd ar streic.
Roedd y newyddion yn “ddychrynllyd” ond “heb fod yn annisgwyl, meddai Prif Weithredwr y Post Brenhinol, Mark Higson.
Mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, y CWU, yn dweud fod y gefnogaeth i’r streic heddiw wedi bod yn gadarn.
Maen nhw hefyd wedi cynnig trafodaethau “diamod” gerbron y corff cyfamodi ACAS.
‘Celwydd’
Heddiw, fe alwodd y Prif Weinidog ar i’r ddwy ochr ddod at ei gilydd o amgylch y bwrdd ond mae’r undeb wedi ymosod yn ffyrnig ar yr Ysgrifennydd Busnes, Peter Mandelson, gan ei gyhuddo o ddweud celwydd.
Gweithwyr didoli oedd ar streic heddiw; mae disgwyl i fwy na 70,000 o bostmyn fod ar streic fory.