Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno i gau ysgol Saesneg er mwyn ymestyn un Gymraeg.

Cyhoeddwyd heddiw y bydd ysgol gynradd Cefn Onn yn Llanisien, Caerdydd, yn cau ar Awst 31 2012, er mwyn ymestyn ysgol Gymraeg Y Wern sy’n rhannu’n un safle.

Bydd disgyblion Ysgol Cefn Onn yn cael llefydd yn ysgolion Llanisien, Coed Glas, Llysfaen a Thornhill.

Hanes dwy ysgol

Sefydlwyd Ysgol y Wern yn 1981 ar safle hen Ysgol Fabanod Cefn Onn ond mae wedi mynd yn rhy llawn ac mae rhai o’r disgyblion yn gorfod cael eu dysgu mewn adeiladau dros dro.

Bydd Ysgol Y Wern yn cymryd adeilad gwag Cefn Onn er mwyn darparu rhagor o addysg Gymraeg yn yr ardal.

Fydd Cefn Onn ddim yn derbyn unrhyw blant newydd i’r dosbarth derbyn o Fedi 2010 ymlaen.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai safle Cefn Onn yn cael ei wella ar ôl i’r ysgol gau ac ar ôl i’r adeiladau dros dro yn Ysgol y Wern gael eu tynnu oddi yno.

Matsio

“Mae’n rhaid i ni wneud y gorau o’n hadnoddau drwy greu ysgolion cynradd diogel a hyfyw ym mhob ardal o’r ddinas, gan fatsio faint o lefydd sydd ar gael yn yr ysgolion i nifer y plant lleol,” meddai’r cynghorydd sydd â chyfrifoldeb am ysgolion, Freda Salway.