Mae Rali Prydain yn cychwyn yng Nghaerdydd yfory a gallai fod y tro olaf i’r gystadleuaeth cael ei chynnal yng Nghymru.
Mae’r rali wedi dod i Gymru bob blwyddyn ers deng mlynedd, ond mae yna ansicrwydd bellach ar ôl i Lywodraeth y Cynulliad benderfynu atal eu nawdd o £2.2m ar gyfer y digwyddiad.
Mae trefnwyr y rali, International Motor Sports, am gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y Llywodraeth am dynnu’n ôl o gytundeb oedd yn cynnwys ariannu’r digwyddiad eleni.
Fe fydd seremoni agoriadol yn cymryd lle ym Mae Caerdydd heno, cyn i’r cystadleuwyr gychwyn o Gaerdydd bore fory.
Dyma rownd olaf Pencampwriaeth Ralïo’r Byd ac mae disgwyl i’r gystadleuaeth orffen yn gyffrous gyda Mikko Hirvonen un pwynt o flaen Sebastien Loeb ar ddechrau’r rali.