Mae mwy na 1,500 o weithwyr post yng Nghymru wedi aros o’r gwaith heddiw wrth i streiciau ddechrau ar draws gwledydd Prydain tros y ddeuddydd nesa’.

Mae’r ymrafael gwleidyddol hefyd wedi chwerwi gyda’r Post Brenhinol ac undeb y gweithwyr cyfathrebu yn cyhuddo’i gilydd o chwalu trafodaethau i geisio osgoi’r gweithredu diwydiannol.

Mae’r undeb wedi cyhuddo’r Llywodraeth o ymyrryd ac wedyn o “olchi eu dwylo” ond mae’r Post Brenhinol yn dweud fod y ddwy ochr wedi cytuno ar gyfaddawd, cyn i’r undeb wrthod arwyddo.

Mae picedwyr y tu allan i ddwy ganolfan ddidoli yng Nghymru – yng Nghaerdydd ac Abertawe – ac mae’r streic hefyd yn effeithio ar y canolfannau yng Nghaer a’r Amwythig, sy’n gwasanaethu’r Gogledd a’r Canolbarth.

Gweithwyr didoli a gyrwyr sy’n streicio heddiw – mae tua 42,000 ohonyn nhw trwy wledydd Prydain – a’r bwriad yw bod 78,000 o bostmyn a staff dosbarthu yn streicio fory.

Yr achos

Mae’r streic yn digwydd oherwydd cynlluniau’r Post Brenhinol i ddiwygio’r gwasanaeth. Er bod y ddwy ochr wedi cytuno ar yr egwyddor, mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu yn cyhuddo’r Post o beryglu swyddi ac amodau gwaith. Maen nhw hefyd yn galw am gyflogau gwell.

Mae’r ddwy ochr yn dweud bod trafodaethau’r dyddiau diwetha’ wedi arwain at gytundeb ar lawer o’r pwyntiau ond yn anghytuno pam fod pethau wedi chwalu wedyn.

• Yn ôl y Post Brenhinol, yr undeb sy’n gwrthod arwyddo ac maen nhw’n fodlon mynd at y corff cymodi, ACAS.

• Yn ôl yr undeb, roedd llythyr gan Reolwr Gyfarwyddwr y Post, Mark Higson, at staff wedi dadwneud popeth.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Billy Hayes, hefyd yn dweud bod y Llywodraeth yn cynllwynio gyda’r cyflogwyr. Roedd yr Ysgrifennydd Busnes, Peter Mandelson, yn “weinidog heb gyfrifoldeb”, meddai.

Effaith ar fusnes

Yn ôl un amcangyfri’, mae bron 3.5 miliwn o fusnesau bach yng ngwledydd Prydain yn defnyddio’r post. Mae rhai’n rhybuddio y bydd y streic yn effeithio ar eu busnesau nhw.

Gwerthwyr ar-lein. Roedd y fasnach yma werth £15 biliwn cyn y Nadolig y llynedd – er bod yr archebu yn digwydd tros y We, mae llawer yn defnyddio’r post i anfon nwyddau.