Mae rheolwyr y Post Brenhinol yn fodlon mynd at y corff trafod Acas – os yw undeb y postmyn yn fodlon rhoi’r gorau i’w streic.
Fe fydd trafodaethau rhwng y ddwy ochr yn parhau heddiw, gyda’r streic fawr gynta’ i fod i ddigwydd ddydd Iau.
Mae arweinwyr Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu – y CWU – hefyd yn dweud eu bod yn fodlon mynd at Acas, ond heb unrhyw amodau ymlaen llaw.
Fe gafodd yr undeb eu gwylltio gan benderfyniad y Post i gyflogi 30,000 o weithwyr ychwanegol cyn y Nadolig – dwbwl mwy nag arfer. Yn ôl y CWU, ymgais i dorri’r streic yw hynny.
Gwleidyddion yn dadlau
Mae’r gwleidyddion hefyd wedi rhannu tros yr anghydfod sydd wedi codi oherwydd cynlluniau’r Post i ddiwygio’i systemau a newid rhai arferion gwaith.
Mae’r gweithwyr yn protestio tros newid amodau gwaith a chyflogau ac er mwyn gwarchod swyddi.
Fe anogodd y Prif Weinidog y ddwy ochr i fod yn rhesymol gan ddweud ei fod yn pryderu y byddai’r Post Brenhinol yn colli busnes am byth.
Ond, yn ôl llefarydd busnes y Ceidwadwyr, Ken Clarke, preifateiddio yw’r unig ateb – os bydd y rheolwyr yn ildio i’r undeb, meddai, fe fydd hi “ar ben” ar y busnes.