Mae Ethiopia ar drothwy trychineb os yw cynhaeaf y mis nesaf yn methu – dyna rybudd yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, Douglas Alexander.
Eisoes, mae wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Prydain yn rhoi £30 miliwn yn rhangor i’r wlad yn nwyrain Affrica gan ddod â chyfanswm y flwyddyn hon i £49 miliwn.
Ond, mae angen rhagor o gymorth, meddai heddiw. Mewn datganiad ysgrifenedig i’r Senedd dywedodd bod y “rhagolwg dyngarol ar gyfer 2010 yn fater o bryder”.
“Gallai’r argyfwng dyngarol ar hyn o bryd droi’n drychineb dyngarol” meddai.
Ofni am y cynhaeaf
Aeth yn ei flaen i ddweud fod rhagolygon prif gynhaeaf Ethiopia ym mis Tachwedd, sy’n cyfri am 90% o gynnyrch bwyd y wlad, yn “achos pryder penodol.”
Yn ôl Douglas Alexander, mae chwe miliwn o bobl yn y wlad angen cymorth brys cyn diwedd y flwyddyn.
Mae’r corff rhyngwladol, UNICEF, wedi amcangyfrif fod mwy na 500,000 o bobol yn dioddef o gyflyrau sy’n gysylltiedig â diffyg maeth.
Fe alwodd Douglas Alexander ar i’r awdurdodau yn Ethiopia fod yn agored am faint a sgôp yr argyfwng yn ogystal â faint o gymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Map (Trwydded GNU)