Fe glywodd llys fod cyn-delynores y Tywysog Charles yn ceisio dod tros gaethiwed i gyffuriau.

Mae Jemima Phillips, 28, sy’n hanu o Lyn Ebwy, yn gwadu tri chyhuddiad o dorri i mewn i dai ar y cyd â’i chariad ar y pryd, William Davies.

Mae hi wedi pledio’n euog i dwyll trwy geisio defnyddio llyfr cyfri’ cymdeithas adeiladu a oedd wedi’i ddwyn.

Fe ddywedodd yr erlynydd y byddai Jemima Phillips yn dweud ei bod hi wedi cymryd rhan yn y lladradau o dan bwysau – roedd y lladradau i gyd wedi digwydd yn ardal y Forest of Dean ble’r oedd hi’n byw gyda’i mam.

Fe ddywedodd hefyd ei bod wedi ei ffeindio gan yr heddlu gyda char yn llawn o eiddo wedi’i ddwyn ond byddai hi’n honni ei bod yn credu mai eiddo William Davies oedden nhw.

Problemau cyffuriau

Fe glywodd Llys y Goron Caerloyw bod y ddau ddiffynnydd yn ceisio dod tros broblemau cyffuriau.

Yn ôl yr erlyniad, mae Jemima Phillips yn delynores dalentog sydd wedi rhoi diddanwch i lawer o bobol.

Mae William Davies hefyd yn gwadu’r honiadau o ladrad ond yn fodlon cyfadde’ i bedwar cyfri’ o drin eiddo wedi’i ddwyn.

Mae Jemima Phillips yn gwadu cyhuddiad pellach o helpu i symud eiddo wedi’i ddwyn.