Fydd dim rhagor o grantiau mawr i ddenu cwmnïau i mewn i Gymru o’r tu allan, yn ôl y Dirprwy Brif Weinidog.

Fe gyhoeddodd Ieuan Wyn Jones bod yna newid yn ffordd y Llywodraeth o gefnogi diwydiant, gyda mwy o bwyslais ar ymchwil a datblygu a chwmnïau sydd eisoes yma.

“Mae amser y grantiau anferth heibio,” meddai wrth Radio Wales, gan ddadlau nad oedd hynny bellach yn ddigon mewn maes cystadleuol iawn.

Fe fyddai’r pwyslais bellach ar gefnogi cwmnïau gydag isadeiledd a chefnogaeth arall, yn ôl Ieuan Wyn Jones, sydd hefyd yn gyfrifol am yr economi a thrafnidiaeth.

Nod arall, meddai, fydd ceisio perswadio cwmnïau i aros ac i ail-fuddsoddi yn yr economi.

Mae’r Llywodraeth yng Nghaerdydd wedi bod yn cynnal arolwg o wario ar ddiwydiant, gyda’r tebygrwydd y bydd llawer o’r arian sy’n dod i Gymru o Ewrop yn dod i ben.