Mae’r Llywodraeth yn bwriadu gwerthu gwerth £16 biliwn o asedau mewn ymgais i geisio cael trefn ar arian cyhoeddus.

Mewn araith heddiw (dydd Llun), bydd y Prif Weinidog yn rhoi manylion am y rownd gyntaf o werthiannau, a fydd yn cynnwys y Tote, croesfan Dartford, y rheilffordd gyflym o Lundain i dwnel y sianel, a’r cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Bydd Gordon Brown yn cyflwyno’r gwerthiannau yma fel ffordd amgenach o arbed arian na’r toriadau mewn gwario cyhoeddus sy’n cael eu cynnig gan y Torïaid.

Dywed fod arno eisiau i’r llywodraeth ganolbwyntio “ar yr hyn y mae’n ei wneud orau”. Bydd yr arian a godir dros y ddwy flynedd nesaf yn helpu ariannu buddsoddiadau cyfalaf a lleihau dyledion.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd ar rhan y Ceidwadwyr: “Fel mae unrhyw deulu’n gwybod, mae gwerthu pethau’n helpu yn y tymor byr, ac yn wyneb y cyflwr y mae’r wlad ynddo, mae’n debyg ei fod yn angenrheidiol. Ond nid yw hyn yn gwneud yn lle cynllun hirdymor i gael y wlad i fyw o fewn ei modd.”