Mae’r cyn seren rygbi Jonah Lomu yn gobeithio argyhoeddi’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol y dylai rygbi saith bob ochor gael ei chynnwys yn y Gêmau Olympaidd.

Mae cyn asgellwr Seland Newydd yng Nghopenhagen yr wythnos hon yn rhan o dîm y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol er mwyn gwneud cyflwyniad o flaen y pwyllgor ddydd Gwener.

“Fe fyddai’n ffantastig i rygbi ac i’r gemau,” meddai Lomu a enillodd fedal aur yng Ngêmau’r Gymanwlad yn 1998.

“Roedd chwarae yng Ngêmau’r Gymanwlad yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa. Byddwn i wedi hoffi cael cyfle i gystadlu am fedal aur yn y Gêmau Olympaidd.”

Pleidlais

Mae gobaith y bydd rygbi saith bob ochr a golff yn cael ymuno gyda’r chwaraeon eraill sy’n rhan o’r Gêmau. Pleidlais y pwyllgor fydd yn penderfynu derbyn un, y ddwy, neu eu gwrthod.

Bydd y ddwy gamp yn wynebu pleidlais unigol, ac mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau mwyafrif o blith y 106 ar y pwyllgor. Fe fydd canlyniadau’r pleidleisiau yn cael eu datgelu brynhawn dydd Gwener.

Pe bai’r pwyllgor yn pleidleisio o blaid cynnwys rygbi saith bob ochr yn y Gêmau, fe ddywedodd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol y byddai’r Gêmau Olympaidd yn cymryd lle Cwpan y Byd yn brif gystadleuaeth y gêm.