Mae Brian Flynn wedi dewis dau chwaraewr ychwanegol i garfan dan 21 Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Bosnia yn Wrecsam dydd Sadwrn.
Mae’r chwaraewyr canol cae Elliott Chamberlain o glwb Gaerlŷr, ynghyd â Daniel Alfei, capten tîm ieuenctid Abertawe, wedi eu cynnwys.
Daw’r newidiadau yn sgil amheuon ynglŷn â ffitrwydd Adam Matthews, Darcy Blake a Christian Ribeiro.
Fe fydd Flynn hefyd yn gobeithio rhoi hwb i’r amddiffyn drwy ychwanegu naill ai Neal Eardley neu Lewin Nyatanga i’r garfan – maen nhw gyda’r prif dîm ar hyn o bryd.
Carfan Cymru dan 21
Golwyr- David Cornell (Abertawe), Chris Maxwell (Wrecsam)
Amddiffynwyr- Darcy Blake (Caerdydd/ Ar fenthyg i Plymouth ), Neal Eardley (Blackpool), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Adam Matthews (Caerdydd), Aaron Morris (Caerdydd), Lewin Nyatanga (CPD Dinas Bryste), Christian Ribeiro (CPD Dinas Bryste), Ashley Richards (Abertawe), Neil Taylor (Wrecsam), James Wilson (CPD Dinas Bryste/ Ar fenthyg i Brentford)
Canol Cae- Joe Allen (Abertawe), Jack Collison (West Ham United), Andy King (Caerlŷr), Shaun MacDonald (Abertawe/ Ar fenthyg i Yeovil), Joe Partington (AFC Bournemouth), Aaron Ramsey (Arsenal), Daniel Alfei (Abertawe), Elliott Chamberlain (Caerlŷr).
Ymosodwyr- Simon Church (Reading), Ched Evans (Sheffield United), Casey Thomas (Abertawe), Sam Vokes (Wolves), Marc Williams (Wrecsam).