Mae barnwr wedi penderfynu ar ddyddiad dïenyddio John Allen Muhammad – y dyn a oedd yn gyfrifol am ladd deg o bobol mewn ymosodiadau ‘sniper’ yn Washington yn 2002.

Fe fydd John Allen Muhammad yn cael ei ddïenyddio ar 10 Tachwedd.

Er bod swyddfa’r Twrnai Cyffredinol wedi gosod y dyddiad ar gyfer Tachwedd 9, mae Jonathan Sheldon, cyfreithiwr John Allen Muhammad yn dweud fod barnwyr sirol wedi’r oedi’r dïenyddiad am ddiwrnod.

Y rheswm dros hyn mae’n debyg yw bod Tachwedd 9 yn ddydd Llun ac maen nhw eisiau swyddfeydd llywodraeth yn agored y diwrnod cynt rhag ofn y bydd unrhyw fater munud ola’ yn codi y byddai’n rhaid i’r llys ddelio gydag e’.

Fe gafodd John Allen Muhammad ei ddedfrydu i farwolaeth am lofruddiaeth Dean Meyers, un o ddeg a gafodd eu saethu yn nherfysg Washington yn 2002.

Yn ôl cyfreithiwr John Allen Muhammad, fe fydd yn apelio ac yn gofyn am drugaredd.

(Llun: Y Tŷ Gwyn, Washington)