Mae heddlu ac erlynwyr wedi eu beirniadu am ddwyn achos yn erbyn dau fachgen yn eu harddegau a gafwyd yn ddi-euog o gynwllwyno i ladd nifer i blant ac athrawon yn yr ysgol.
Tri chwarter awr yn unig wnaeth y rheithgor gymryd cyn penderfynu fod Matthew Swift, 18 oed a Ross McKnight, 16, yn ddi-euog o gynllwyno i ladd staff a disgyblion yn Ysgol Uwchradd Audenshaw yn Manceinion.
Disgrifodd eu bargyfreithiwr yr achos fel “erlyniad di-angen a llawdrwm” a gwastraff ar arian cyhoeddus.
‘Artaith’
Dywedodd tad Ross McKnight, Ray, sy’n heddwas, bod ei fab a’i ffrind wedi mynd drwy “artaith lwyr” wrth dreulio chwe mis o dan glo yn aros i’r achos ddod i’r llys.
Roedd yr erlyniad wedi honni bod gan y ddau obsesiwn gydag Eric Harris a Dylan Klebold, dau lofrudd ifanc wnaeth ladd 12 o fyfyrwyr ac athro mewn ysgol yn Colorado yn yr Unol Daleithiau yn 1999 – cyn lladd eu hunain.
Honnwyd fod Matthew Swift a Ross McKnight yn cynllwyno digwyddiad tebyg i gofnodi deng mlynedd ers y llofruddiaethau yn America.
Ond methwyd dod o hyd i unrhyw arfau yn dilyn arestio’r ddau ym mis Mawrth.