Mae un o gyn actorion Pobol y Cwm, a oedd wedi gobeithio ennill rôl fel James Bond, wedi marw.

Fe drawyd Geraint Owen, oedd yn 43 oed, gan waedlif i’r ymennydd dros y penwythnos, a fe fu farw bore dydd Sadwrn.

Roedd hefyd yn wleidydd, gan gynrychioli Plaid Cymru yn sedd De Bryncoch yng Nghastell-nedd tan yr etholiad y llynedd, a safodd yn erbyn yr AC Brian Gibbons yn Aberafan yn 2003, a’r AS Peter Hain yn etholiad cyffredinol 2005.

Roedd Geraint Owen, brawd y cyflwynydd teledu Rhodri Owen, yn actio rhan Rod “The Plod” Phillips yn Pobol y Cwm.

Cafodd ei gyfweld ar gyfer rôl James Bond, ond collodd y cyfle i Daniel Craig.