Mae cwmni technoleg ailgylchu Sterecycle wedi derbyn caniatâd i adeiladu a rhedeg ffatri ailgylchu newydd yng Ngwynllŵg ger Caerdydd. Bydd y ffatri’n delio â gwastraff bagiau du a gwastraff masnachol.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo’r cynllun ac mae disgwyl i’r cwmni fuddsoddi oddeutu £50 miliwn yn y prosiect a ddylai fod yn barod erbyn gwanwyn 2011.

Bydd disgwyl i’r ffatri newydd greu 60 o swyddi newydd hir-dymor yn ogystal â thua 100 o swyddi yn adeiladu’r ffatri.

Gwastraff 400,000 o bobol

Bydd y safle’n gallu prosesu tua 200,000 tunnell o wastraff bob blwyddyn. Mae hynny’n ddigon i ymdopi â gwastraff tua 400,000 o bobol – mwy na phoblogaeth Caerdydd.

Bydd y ffatri yng Ngwynllŵg yn un o bump safle newydd i gael eu hadeiladu gan Sterecycle ledled Prydain.

Y disgwyl yw y bydd y cynllun cyfan greu 300 o swyddi newydd dros gyfnod o bedair blynedd, gyda chost o £200m i’r cwmni.

Dywedodd Duncan Grierson, Prif Weithredwr Sterecycle: “Mae derbyn caniatâd gan Gyngor Caerdydd i adeiladu ein ffatri gyntaf yng Nghymru yn newyddion gwych.

“Mae’r newyddion yn dda i’r cynghorau lleol hefyd, gan y bydd y ffatri’n datrys y broblem o or-ddibynnu ar gladdu gwastraff.”