Mae cwmni Corus wedi datgelu y byddan nhw’n torri mwy fyth o swyddi ac mae 149 o’r rheiny yng Nghymru.

Fe fydd y rheiny’n digwydd yn adrannau gweinyddol gweithfeydd dur Port Talbot a Llanwern ger Casnewydd – swyddi rheoli sy’n cynorthwyo adranau adnoddau dynol a chyllid.

Mae’n dilyn colli mwy na 500 o swyddi yn Llanwern ynghynt eleni a’r diswyddiadau i gyd yn ôl y cwmni yn arwydd o ddirywiad sylweddol yn y galw am ddur ym marchnadoedd Ewrop ac America.

Bydd y broses ymgynghori ynglŷn â’r diswyddo yn dechrau ddydd Llun nesaf.

Mae disgwyl i’r cwmni., sy’n eiddo i gwmni rhyngwladol Tata o India, gyhoeddi yn ddiweddarach y bydd 366 o swyddi yn cael eu torri yn eu gwaith yn Scunthorpe yng Ngogledd Swydd Lincoln.

Eisoes, y mis diwetha’, roedd y cwmni wedi cyhoeddi eu body n torri 2,000 o swyddi yno ac yn cael eu torri fis diwethaf, yn bennaf yn Rotherham a Sheffield yn Swydd Efrog.

Roedd hynny ar ben 2,500 o swyddi eraill a gafodd eu torri ddechrau’r flwyddyn, yn dilyn cwymp yn y galw am ddur.

‘Sarhad ar ben popeth arall’

Ceisiodd y cwmni dorri costau ym mis Ionawr, gan gau ffatri Llanwern yng Nghasnewydd, am y tro ac ail strwythuro rhannau o’r busnes.

Yn ogysal â’u gwaith anferth ym Mhort Talbot, mae gan Corus weithfeydd dur eraill yn Shotton, Sir y Fflint, Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin a Phontarddulais, ger Abertawe ac fe gollwyd swyddi yno hefyd.

Dywedodd Michael Leahy, ysgrifennydd cyffredinol Undeb Community, bod y toriadau diweddaraf yn “sarhad” i’r gweithwyr yn dilyn yr holl doriadau eraill.

“Pan fyddwn ni’n dechrau gobeithio bod y toriadau mewn swyddi yn dod i ben mae yna gyhoeddiad arall,” meddai.