Mae bomiau yn Baghdad a gogledd Irac y bore yma wedi lladd o leiaf 41 o bobol ac wedi anafu mwy nag 80 arall.
Dim ond wythnos sydd ers i filwyr Unol Daleithiau’r America dynnu’n ôl o’r trefi a’r dinasoedd a rhoi’r cyfrifoldeb am ddiogelwch yn nwylo heddlu Irac.
Fe wnaeth ymosodiad ger tŷ barnwr yn Tal Afar, tref 260 milltir i’r gogledd-orllewin o Baghdad, ladd 34 o bobol ac anafu 60.
Yn Baghdad cafodd saith o bobol eu lladd a 20 eu hanafu gan ddau ffrwydrad o fewn 100 metr i’w gilydd yn Ninas Sadr, ardal dlawd Shi’ite o’r brifddinas.
Yn ôl yr heddlu, roedd y bomiau wedi eu gosod mewn pentyrrau o sbwriel ar strydoedd un o farchnadoedd prysuraf yr ardal.