Mae yna ddirgelwch ynglŷn â chorff Michael Jackson gydag ansicrwydd tros ble mae.
Ddiwrnod ar ôl y gwasanaeth ffarwel yn Los Angeles, mae rhai adroddiadau yn y wasg yn awgrymu ei fod heb ei gladdu, wrth i’r teulu aros am ymennydd y canwr i ddod yn ôl wedi archwiliad awtopsi.
Yn ôl Heddlu Los Angeles cafodd y corff ei gludo i Barc Coffa Forest Lawn ble cynhalwyd gwasanaeth coffa preifat gan y teulu ond dydyn nhw ddim wedi rhoi gwybod ble bydd yn cael ei gladdu.
Mae rhai yn dweud y bydd corff y canwr yn cael ei roi mewn mynwent breifat yn Los Angeles ac mae eraill yn credu mai yn fferm Neverland, Santa Barbara y bydd o.