Mae cyw melyn y Cynulliad yn galw ar ei chyd-aelodau i harnesu’r dechnoleg fodern er mwyn cynnal trafodaeth efo pobol y wlad.
Bethan Jenkins yw’r AC ifanca’ yn ein Senedd, ac mae’n dweud mai e-wleidydda yw’r ffordd i fynd â gwleidyddiaeth at gynulleidfa ehangach. Yr wythnos ddiwethaf roedd hi’n cynnal dadl fer yn y siambr ar “Y Chwyldro Twitter”.
“Mae angen datblygu ffyrdd newydd o weithio fel Aelodau Cynulliad ac i gyfathrebu gyda dinasyddion Cymru,” meddai Bethan Jenkins. Mae modd darllen ei negeseuon twitter fan hyn.
“Gyda thŵf technoleg newydd, rhaid i ni fod yn rhan o gyfathrebu trwy bethe fel facebook, blogio a twitter wrth gwrs.”
Bethan Jenkins yw un o’r menywod prin sy’n blogio’n rheolaidd. Mae hi’n defnyddio’r we’n frwd i hyrwyddo ei gwaith fel cynrychiolydd Gorllewin De Cymru.
“Yn ôl ymchwil gan Hansard, mae 70% o’r bobol siaradon nhw â nhw yn dweud bydde well gyda nhw pe bai Aelodau Seneddol yn cysylltu â nhw ar y we…
“Mae yna ofyn mas yna, y ffordd dyn ni’n neud e yw’r peth. Rydyn ni angen neud e mewn ffordd ddidwyll sy’ ddim yn [nawddoglyd], sy’ ddim yn mynd mas yna i hysbysebu’n hun, ond i wir wrando ar bobol.”
Twit-brotest Iran yn esiampl
Ym mis Ebrill, llwyddodd ieuenctid Moldova i gynnal protest enfawr yn erbyn y llywdoraeth gomiwnyddol newydd yn y brifddinas, Chisina, trwy ddatganiadau byr ar twitter, tra bod pobol ifanc Iran wedi defnyddio’r dechnoleg i ddangos i bobol y gorllewin eu bod yn gwrthwynebu’r Arlywydd Mahmoud Ahmadinejad.
Mae Bethan Jenkins yn dweud bod hyn yn brawf mai technoleg yw’r ffordd ymlaen i ennyn diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Ei gobaith yw cael y cyhoedd i fod yn rhan o drafodaethau’r Cynulliad trwy drydar eu barn ar twitter yn syth i’r Senedd wrth i’r gwleidyddion drafod.
“Does dim modd i bobol ddod yn rhan o’r drafodaeth,” meddai. “Dwi’n defnyddio twitter yn barod ar gyfer dweud wrth bobol beth sy’n digwydd yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog bob dydd Mawrth.
“Mae’n ffordd arall i bobol fod yn rhan o’r drafodaeth.”
Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Gorffennaf 9