Mae angen gwneud mwy dros bobol sy’n dioddef o afiechydon HIV ac Aids yn Ne Affrica, yn ôl y sylwebydd rygbi a’r meddyg, Gwyn Jones.
Cyn dod nôl i Gymru ar ôl taith y Llewod yn y wlad, bu’n ymweld â chanolfan i drin y clefydau yn Johannesburg.
“Dw i wedi gweld lot o bethau gwael mewn ysbytai,” meddai’r cyn chwaraewr rygbi a meddyg o Gaerdydd, “ond oedd hyn ar scale gwbwl gwahanol.
“Yr unig ffordd i symud ymlaen o fan hyn yw drwy addysgu a gwaith gwirfoddol.”
‘Cadw’n dawel’
Roedd yn ymweld â chynllun gan yr elusen Oxfam sy’n cynnig cefnogaeth i unigolion a’u teuluoedd sy’n dioddef oherwydd HIV/Aids.
Ei chwaer, Luned Jones, sy’n gweithio i Oxfam, a drefnodd yr ymweliad ag Orange Farm yn Johannesburg.
“Mae gan 28% o bobol ar draws De Affrica HIV – ond yn Orange Farm, mae gan 45% HIV, a ‘sa i cweit yn siwr pam bod y rhif mor uchel,” meddai Gwyn Jones.
Roedd un ddynes, Mama Rose, a gafodd ei threisio yn yr 80au – a chael HIV drwy hynny.
“Cafodd hi’r diagnosis yn 1990, ond wnaeth hi gadw’n dawel tan 1996, oherwydd y stigma sydd yno am y glefyd.”
‘Tlodi rhyfeddol’
Erbyn hyn mae’n cynnig gofal i bobol sy’n dioddef o AIDS yn enwedig y gwaetha yn eu cartrefi.
“Maen nhw’n cael eu trin yn y tai, yn hytrach na gorfod mynd i’r ysbytai neu glinics,” meddai Gwyn Jones, a wnaeth weithio ei hun mewn clinig i bobol a oedd gyda HIV/AIDS yng Nghaerdydd am gyfnod.
“Mae’r tlodi’n ryfeddol yna, gyda thair neu bedair cenhedlaeth yn byw o dan un to. Mae’n anodd i gredu,” meddai eto.
Cafodd y profiad hefyd o gwrdd â merch 22 oed, a oedd mewn perthynas â dyn, ac yn amlwg yn meddwl ei fod yn ffyddlon.
“Ond roedd hi’n dost am ddwy flynedd – roedd ganddi TB yn ei hasgwrn cefn, ac felly wedi colli ei chryfder, a’i defnydd o’i choesau.”
Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Gorffennaf 9