Fe ddylai’r hawl i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg gael ei roi yn nwylo’r Cynulliad cyn yr etholiad cyffredinol nesaf – rhwng nawr a Mai 2010.

Roedd Dr Hywel Francis Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn “mawr obeithio” y byddai hyn yn digwydd, wrth i adroddiad y pwyllgor ar y Gorchymyn Iaith gael ei gyhoeddi.

“Mae’r adroddiad yn unfrydol,” meddai Hywel Francis wrth Golwg. “R’yn ni’n cefnogi trosglwyddo’r pwerau i’r Cynulliad ond yn awgrymu rhai newidiadau i’r eLCO drafft.”

Penderfynu

Penderfyniad Swyddfa Cymru, swyddfa’r Ysgrifennydd Gwladol Peter Hain, a Llywodraeth Cymru, yn adran y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, fydd derbyn y newidiadau ai peidio – un ai awgrymiadau Pwyllgor Deddfu’r Cynulliad gyflwynodd adroddiad fis diwethaf neu awgrymiadau’r Pwyllgor Dethol, neu gyfuniad.

Mae Hywel Francis a’i bwyllgor yn awgrymu cael gwared ar y trothwy £200,000, a fyddai’n gorfodi cwmniau sy’n derbyn grant cyhoeddus tebyg i weithredu’n ddwyieithog.

Mae hefyd am gael rhagor o wybodaeth am rôl y Comisiynydd Iaith arfaethedig, cysondeb yng nghyd-destun pa gyfleustodau a gwasanaethau fyddai’n cael eu cynnwys o fewn unrhyw fesur, a dim byrdwn i’w roi ar gyrff bach fel elusennau a chwmniau llai.

‘Dim hawl’

Mae adroddiad Pwyllgor Deddfu’r Cynulliad a fu’n ystyried y Gorchymyn Iaith yn galw am y “cwmpas ehangaf posibl o bwerau deddfu” i’r Cynulliad ar yr iaith Gymraeg, ond mae Hywel Francis yn mynnu nad gwneud galwadau tebyg oedd rôl y Pwyllgor Dethol.

“Does dim hawl gyda ni i ddweud siwd beth,” meddai Hywel Francis. “Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn awgrymu hynny, ond do’n ni ddim yn credu bod hawl gyda ni i wneud hynna. Ond fe ddyweda’ i ein bod ni wedi croesawu adroddiad [y pwyllgor deddfu] fel adroddiad oedd yn dipyn o help i ni.”

Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Gorffennaf 9