‘Angen dysgu gwersi’ o ymlediad C. difficile

← Stori flaenorol

Betsan Moses

Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn edrych ymlaen at “binacl” yr Eisteddfod AmGen

Stori nesaf →

Logo Golwg360

Dyn yr hwyaid yn mynd i glwydo

Ceidwadwr arall yn ymddeol

Hefyd →

Logo Golwg360

Dream Alliance yn ôl yng Nghas-gwent

Fe fydd enillydd diwethaf Grand National Cymru yn dychwelyd i faes ei gamp enwog fory i geisio ail-adrodd hanes.

Mae’r trefnwyr yn hyderus y bydd ras fwya’ Cymru yn mynd yn ei blaen ar yr ail gynnig, er gwaetha’ ychydig ofnau am y tywydd y bore yma.

Fe ennillodd Dream Alliance Grand National Cymru yn 2009 lai na dwy flynedd ar ôl dod yn agos at gael ei roi i lawr.

Torri tennyn

Fe dorrodd dennyn yn y Grand National yn Aintree yn 2008 a dim ond triniaeth bôn gelloedd a lwyddodd i’w achub.

Ond roedd criw o 23 o bobol leol yng Nghefn Fforest ger y Coed Duon, sy’n berchnogion ar Dream Alliance, wedi talu £20,000 am lawdriniaeth flaengar i achub ei yrfa.

Er iddo ennill yng Nghas-gwent yn 2009 mae’r ceffyl wedi cael trafferth cynnal ei lwyddiant ac mae wedi methu â gorffen ei dair ras ddiweddaraf.

Bwcis

Mae ei berfformiadau diweddar yn cael eu hadlewyrchu yn ei bris betio gyda nifer o’r bwcis yn ei osod ar 14/1.

Bu’n rhaid gohirio Grand National Cymru 2010 o’r dyddiad gwreiddiol ar 27 Rhagfyr oherwydd y tywydd gaeafol.

Fe fydd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC, Tony McCoy, yn cystadlu ar gefn y ffefryn Synchronised.



Llun: Y ffefryn – A.P. ‘Tony’ McCoy (pbase CCA 3.0)