Bydd y canolwr profiadol Rey Lee-Lo yn dychwelyd i dîm Rygbi Caerdydd ar gyfer eu gêm yn erbyn yr Harlequins o Lundain yng Nghwpan y Pencampwyr heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 18).

Mae’r rhanbarth yn parhau i fod heb y rhan fwyaf o’u carfan, er bod 32 chwaraewr wedi gorffen hunanynysu yr wythnos hon.

Roedden nhw’n gorfod gwneud hynny mewn gwesty yn Lloegr am ddeng niwrnod, ar ôl dychwelyd o Dde Affrica, sy’n wlad ar y rhestr goch.

Golygodd hynny eu bod nhw wedi methu chwarae yn yr ornest Cwpan y Pencampwyr yr wythnos ddiwethaf yn erbyn Toulouse, ac oherwydd diffyg ffitrwydd, byddan nhw’n absennol eto y penwythnos hwn.

Mae chwe aelod o’r rhanbarth yn parhau i hunanynysu ar ôl dychwelyd yn hwyrach na phawb arall, ar ôl iddyn nhw brofi’n bositif am Covid-19.

Fe wnaeth Toulouse oresgyn chwarae dewr Caerdydd a manteisio ar yr absenoldebau, gyda pherfformiad athrylithgar gan Antoine Dupont, ‘Chwaraewr Rygbi Gorau’r Byd’, yn sicrhau buddugoliaeth o 39-7 ar Barc yr Arfau.

Bydd cic gyntaf y gêm heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 18) am 1 o’r gloch yn y Stoop yn Llundain, a bydd y gêm yn cael ei dangos yn fyw ar BT Sport 3.

Newyddion y tîm

Cyhoeddodd Rygbi Caerdydd bedwar newid i’r tîm a ddechreuodd ar Barc yr Arfau ddydd Sadwrn diwethaf (Rhagfyr 11).

Bydd Rey Lee-Lo yn dychwelyd i safle’r canolwr ochr yn ochr â Willis Halaholo, ar ôl iddo fethu’r gêm ddiwethaf oherwydd gwaharddiad.

Mae hynny’n golygu y bydd Josh Adams yn symud yn ôl i’r asgell, tra bod Dan Fish yn symud i safle’r maswr i gymryd lle Jason Tovey, sy’n absennol yr wythnos hon ar ôl anaf i’w ben yn erbyn y Ffrancwyr y penwythnos diwethaf.

Yn dilyn cerdyn coch i’r cefnwr ifanc Jacob Beetham yn y golled yn erbyn Toulouse, mae cefnwr arall o’r academi, Cameron Winnett, yn dechrau yn Llundain.

Daw Evan Yardley i mewn i safle’r bachwr yn lle Iestyn Harris ac mae Sam Moore yn llenwi bwlch yn y rheng ôl yn absenoldeb Olly Robinson hefyd.

Heblaw am y chwaraewyr sy’n absennol am eu bod yn hunanynysu, mae llond llaw o chwaraewyr eraill yn colli allan, gan gynnwys y chwaraewyr rhyngwladol Josh Navidi a Dillon Lewis.

Gair gan yr hyfforddwr

Mae Gruff Rees, hyfforddwr dros dro Caerdydd, yn dweud y byddai cael perfformiad da yn erbyn yr Harlequins yn ffordd dda o orffen y cyfnod cythryblus hwn.

“Roedd yr wythnos ddiwethaf yn ymdrech enfawr gan y bechgyn ac fe’r oedd hi’n ddiwrnod arbennig iawn ym Mharc yr Arfau,” meddai.

“Fodd bynnag, mae’r wythnos hon yn her enfawr arall yn erbyn pencampwyr Lloegr ac unwaith eto bydd yn rhaid i ni godi ein gêm i fynd benben â nhw.

“Rydyn ni wedi gorfod addasu’r tîm ychydig bach oherwydd fod chwaraewyr ddim ar gael, ond mae gennym ni hefyd lawer iawn o hyder yn y grŵp hwn eu bod nhw’n gallu cyflawni unwaith eto.

“Mae wedi bod yn gwpl o wythnosau da iawn, ac mae’r ffordd maen nhw wedi dod at ei gilydd drwy’r heriau yn adrodd cyfrolau am gymeriad y garfan, a byddai’n wych dod â hynny i ben gyda pherfformiad da arall i lawr yn Llundain.”

Y 15 sy’n cychwyn

Caerdydd: 15. Cameron Winnett, 14. Josh Adams, 13. Rey Lee-Lo, 12. Willis Halaholo, 11. Theo Cabango, 10. Dan Fish, 9. Tomos Williams; 1. Rowan Jenkins, 2. Evan Yardley, 3. Will Davies-King, 4. Alun Lawrence, 5. Seb Davies, 6. Ellis Jenkins (capten), 7. James Botham, 8. Sam Moore

Eilyddion: 16. Alun Rees, 17. Nathan Evans, 18. Geraint James, 19. Rhys Anstey, 20. Alex Mann, 21. Ethan Lloyd, 22. Ioan Evans, 23. Ryan Wilkins