Mae canolfannau celfyddydol tair Prifysgol yng Nghymru wedi dod ynghyd i gydweithio am y tro cyntaf erioed, ar brosiect cymunedol unigryw.

Bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Canolfan Pontio, Bangor, a Chanolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe, yn cynnal prosiect ‘Cartref a Chynefin’ ar y cyd.

Bwriad y prosiect, sydd werth £175,000, yw cydweithio gyda myfyrwyr, gweithwyr creadigol llawrydd, academyddion a grwpiau cymunedol ledled Cymru i archwilio’r cysylltiad rhwng cartref ac ardal.

Mae’r prosiect wedi ei gyllido gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, gyda’r nod o ddod a phobl ynghyd i rannu profiadau a dathlu’r gwahaniaethau rhyngddynt.

Y prosiect

Bydd y prosiect yn cael ei gynnal yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf a bydd yn cael ei arwain gan artist a chynhyrchydd amlwg.

Byddant yn cydweithio gyda myfyrwyr, academyddion ac artistiaid llawrydd ar draws y tri lleoliad.

Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yw’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r prosiect, fydd yn gofyn cwestiynau ynglŷn â’r Gymru y dymuna’r cyfranogwyr ei gweld yn y dyfodol, ar ôl Covid a Brexit.

Bydd y prosiect yn gwbl gynhwysol, yn amlieithog ac yn ceisio cyrraedd gymaint o bobl ag sy’n bosibl.

Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen cefnogaeth ar ein cymunedau i ddod at ei gilydd wrth iddynt wynebu heriau’r dyfodol, meddai trefnwyr y prosiect.

“Cydweithredu a chydweithio”

“Mae’n brosiect cynhyrfus ac uchelgeisiol wrth i ni gyd-weithio gyda chymunedau o Ganolbarth Cymru, Abertawe a’r cyffiniau, ac ardal Bangor,” meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

“Ein gobaith yw y bydd y gwaith yn gwneud gwahaniaeth, a hynny yn y gymuned leol ac i fywyd myfyrwyr y tair prifysgol, sydd yn greiddiol i gyfrifoldebau’r prifysgolion y tu hwnt i’r campws.”

Dywedodd Osian Gwynn, Cyfarwyddwr Pontio:

“Mae’r bartneriaeth hon yn un hynod bwysig a chredaf mai dyma’r tro cyntaf i’r tri phartner ddod at ei gilydd i weithio ar brosiect creadigol.

“Bydd cydweithredu a chydweithio yn allweddol yn y proses o greu newid go iawn ac mae’r prosiect hwn yn ymgorffori’r ethos hwnnw.”

Ychwanegodd Simon Coates, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol Canolfan Gelfyddydau Taliesin:

“Mae’r ffaith y bydd y prosiect hwn yn cael ei lunio gan y cymunedau a’r sawl sy’n cymryd rhan yn arbennig ynddo’i hun ac mae’n symboleiddio natur yr hyn yr ydym yn dymuno’i gyflawni gyda’n gilydd.

“Gobeithiaf y bydd y prosiect a’r bartneriaeth hon yn braenaru’r tir ar gyfer rhagor o waith cyffelyb yn y dyfodol.”