Mae Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen Ap Gwynn wedi dweud bod Setliad Cyllid Llywodraeth Leol 2021/22 fel “siom wirioneddol.”

Daw hynny wedi i’r drafft ddyfarnu codiad o 2% yn unig i Geredigion, sy’n golygu bydd codiad pellach yn Nhreth Cyngor a thoriadau pellach yn “anochel”, meddai, ac y bydd yn rhaid “edrych ar golli staff”.

Yn ôl y Cynghorydd, gwasanaethau Gofal ac Addysg sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan fod yr holl wasanaethau eraill “wedi’u rhesymoli a’u torri i’r asgwrn eisoes.”

“Cic go iawn”

Mewn datganiad, dywedodd Ellen ap Gwynn:

“Gyda siom wirioneddol y cefais yr hysbysiad o setliad ariannol drafft Llywodraeth Leol ar gyfer 2021/22.

“Yn dilyn blwyddyn anodd iawn, cafwyd sicrwydd personol Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, i bob Arweinydd Awdurdod Lleol na fyddai gennym unrhyw beth i boeni amdano yn y flwyddyn ariannol nesaf.”

“Roedd yn gic go iawn o ddyfarnu codiad o 2% yn unig i Geredigion ar gyfer 2021/22.

“Ein costau rhagamcanol a ragwelir ar gyfer y flwyddyn nesaf yw £6.5 miliwn, a dim ond £2m y bydd y codiad arfaethedig o 2% yn ei roi. Mae hyn yn golygu diffyg o £4.5 miliwn a fydd yn anochel yn golygu codiad pellach yn y Dreth Gyngor a mwy o doriadau.

“Edrych ar golli staff”

“Ar y lefel hon o doriadau, bydd yn rhaid i ni edrych ar golli staff. Oherwydd toriadau parhaus dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n anochel y bydd y toriadau hyn yn disgyn ar ein gwasanaethau Gofal ac Addysg gan fod yr holl wasanaethau eraill wedi’u rhesymoli a’u torri i’r asgwrn eisoes,” meddai yn ei datganiad.

“Ar ran trigolion Ceredigion, byddwn yn apelio ar Mark Drakeford a’i gydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau bod llawr cyllido yn cael ei roi ar waith i roi setliad mwy cyfartal o tua 4% i bob Sir.

“Yn dilyn blwyddyn mor ddirdynnol i ni i gyd, lle mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru yn frwd i ddelio â’r pandemig hwn, dyma’r lleiaf y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddangos eu gwir werthfawrogiad i’n staff sydd wedi rhoi popeth yn ystod y misoedd anodd diwethaf yma.”