Mae Cadeirydd Bwrdd Anifeiliaid NFU Cymru wedi adnewyddu galwad yr undeb i berchnogion cŵn gadw eu hanifeiliaid anwes o dan reolaeth, ar ôl i ddefaid gael eu lladd a’u hanafu mewn ymosodiad gan gŵn ar ei fferm.

Mae Wyn Evans, sy’n ffermio ger Aberystwyth yng Ngheredigion, wedi colli saith dafad, tra bod pump arall wedi cael eu hanafu wedi’r digwyddiad ar Nos Galan.

Mae Tîm Troseddau Gwledig Ceredigion Heddlu Dyfed-Powys bellach yn ymchwilio i’r digwyddiad.

“Er bod y mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn credu bod eu ci yn ddiogel ac na fyddai’n niweidio defaid nac anifeiliaid eraill, gall cŵn achosi anaf a marwolaeth i anifeiliaid os nad ydynt yn cael eu tywys yn gyfrifol, yn enwedig pan nad yw’r ci hwnnw’n gyfarwydd â da byw,” meddai Wyn Evans.

“Gallaf werthfawrogi bod llawer o bobol yn mwynhau cerdded eu ci yng nghefn gwlad prydferth Cymru.

“Rwyf hefyd yn cydnabod bod ymarfer corff yn arbennig o bwysig i iechyd corfforol a meddyliol pobl yn ystod y cyfyngiadau symud.

“Fodd bynnag, rwy’n erfyn ar berchnogion cŵn i gadw eu ci o dan reolaeth o amgylch da byw er mwyn osgoi digwyddiadau gofidus fel yr un sydd wedi digwydd ar ein fferm yn y dyddiau diwethaf.

“Pwysig bod gan ein timau heddlu gwledig yr adnoddau i ymateb i droseddau o’r math hwn”

Ychwanegodd Wyn Evans: “Mae’n hanfodol bod ffermwyr yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau o’r math hwn er mwyn rhoi darlun cywir i’n heddluoedd o raddfa’r broblem.

“Mae’r un mor bwysig bod gan ein timau heddlu gwledig yr adnoddau i ymateb i droseddau o’r math hwn yn gyflym ac yn effeithiol.

“Rwy’n awyddus i gyfarfod â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, i drafod sut y gall yr heddlu weithio’n well gyda’r diwydiant ffermio i sicrhau bod y rhai y mae eu gweithredoedd anghyfrifol yn arwain at anaf a marwolaethau da byw yn cael eu nodi’n gywir a bod camau priodol yn cael eu cymryd yn eu herbyn.”