Mae Arwyn Roberts, neu Arwyn Herald fel mae’n cael ei adnabod wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol ar ôl bron hanner canrif o dynnu lluniau i bapurau’r Herald a’r Daily Post.

Dechreuodd ei yrfa gyda’r Herald yn 1975, lle bu’n gweithio yn swyddfa’r Herald ar faes Caernarfon.

Aeth ymlaen i weithio i’r Daily Post lle mae wedi treulio’r 40 mlynedd ddiwethaf cyn penderfynu ymddeol.

Wrth siarad â golwg360 am ei yrfa, mae Arwyn Herald yn dweud mai diwedd yr 1980au a’r 1990au oedd y “cyfnod mwyaf cyffrous.”

Treuliodd y cyfnod hwn yn dogfennu ymgyrch llosgi tai haf Meibion Glyndŵr, ralïau gwleidyddol a’r refferendwm i sefydlu Cynulliad yn 1997.

“Mae’n anodd iawn dewis llun gorau ar ôl tynnu gymaint, ond mi faswn i’n dweud mai’r cyfnod mwyaf cyffrous oedd diwedd y 80au i ddechrau’r 90au,” meddai wrth golwg360.

“Roedd Cymru’n brwydro bryd hynny, roeddem ni eisiau Cynulliad ac yn galw amdano.

“Roedd protestiadau Cymdeithas yr Iaith ar ei hanterth hefyd ac yn llwyddo i gasglu dros fil o bobol ar faes Caernarfon.

“Wedyn mi oedd gennych chi Meibion Glyndŵr yn llosgi tai haf ym Mhen Llyn wrth gwrs.

“Yn sicr, hwnnw oedd y cyfnod mwyaf cyffrous.”

Newid mawr

Mae Arwyn Herald yn dweud fod newid mawr wedi bod ym myd newyddiaduriaeth a ffotograffiaeth ers pryd ddechreuodd o ei yrfa.

“Mae pethau wedi newid yn ofnadwy, pan roeddwn i’n dechrau mi oeddet ti’n mynd ati i dynnu lluniau a hel straeon newyddiaduriaeth ar liwt dy hun, jest mynd amdani.

“Ond heddiw mae yna bob math o reolau, ti ddim yn cael gneud hyn, ti ddim yn cael gneud llall… mae pethau dipyn yn anoddach.

“Ac yn ôl bryd hynny, dim ond un coleg oedd yn gwneud newyddiaduriaeth, sef Caerdydd, ond nawr mae gymaint o bobol yn gallu astudio newyddiaduriaeth, ond oes yna ddigon o swyddi iddyn nhw?

Cyfryngau Cymdeithasol

Ond y newid mwyaf mae Arwyn Herald yn ei nodi ydi twf cyfryngau cymdeithasol.

“O’r blaen roedd pobol yn disgwyl i gael papur newydd er mwyn gallu gweld llun, ond wan ti’n gallu ei roi o’n syth ar gyfryngau cymdeithasol.. mae pawb ar y we.

“Dw i’n meddwl bod y brwdfrydedd yna wedi mynd.”

“Mi fyddai dal yn tynnu lluniau”

Ond er ei fod yn ymddeol, mae Arwyn Herald yn dweud y bydd yn “dal i dynnu lluniau.”

“Mi fydda i dal yn tynnu lluniau ac yn dal i gysylltu efo pobol, dw i’n berson pobol,” meddai.

“Y cwbl dw i’n neud ydi ymddeol o’r Daily Post ar ôl 40 o flynyddoedd ac mi fydd hi’n braf cael amser i fi fy hun.”