Mae gan dechnoleg clyfar y potensial i drawsnewid cymunedau gwledig, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r adroddiad, a gomisiynwyd gan gwmni BT, sy’n canolbwyntio ar sectorau amaeth a thwristiaeth yng nghefn gwlad Cymru, yn dweud gall dyfeisiau clyfar helpu’r ardaloedd hyn i ffynnu yn y dyfodol.

Cydweithio i wella sgiliau digidol mewn sectorau gwledig

Yn ôl Nick Speed, cyfarwyddwr BT Group yng Nghymru, mae gan y dechnoleg y potensial i helpu economïau gwledig i dyfu ac annog pobl ifanc i aros yn yr ardaloedd hyn.

Nick Speed

“Mae’r dechnoleg hon yn datblygu’n gyflym ac mae’n braf bod llawer o’r rhaglenni blaengar gwledig yn cael eu treialu a’u datblygu yma yng Nghymru”, meddai Nick Speed.

“Ond mae heriau amlwg i dwf y dechnoleg hon mewn sectorau gwledig, gan gynnwys y buddsoddiad cychwynnol sydd ei angen ar fusnesau a pha mor gyflym y gellir cau’r bwlch rhwng band eang a chysylltedd symudol gwledig a threfol.”

Er hyn eglurodd Nick Speded bod llawer o bobol mewn sectorau gwledig yn dal i gwestiynu pa mor berthnasol yw’r dechnoleg iddyn nhw.

“Yr hyn a glywsom gan lawer mewn sectorau gwledig yw nad ydi’r dechnoleg yn berthnasol iddyn nhw neu ‘does gen i ddim yr amser'”, meddai.

“Un o argymhellion clir yr adroddiad yw cydweithio i wella sgiliau digidol mewn sectorau gwledig ac i helpu i hyrwyddo’r arloeswyr hynny sydd eisoes yn gwneud pethau anhygoel.”

Rhodri Owen

‘Gwneud gwaith ar y fferm yn fwy diddorol’

Un ô’r sefydliadau sydd wedi gweld budd o’r cynllun yw Fferm Coleg Glynllifon ger Caernarfon.

Yn ôl Rhodri Owen, rheolwr fferm Coleg Glynllifon ger Caernarfon, mae’r “dechnoleg yma wedi gwneud gwaith ar y fferm yn fwy diddorol.”

Gan ddefnyddio technoleg ddi-wifr mae Fferm Glynllifon, Grŵp Llandrillo Menai, yn defnyddio sensoryddion i fonitro tymheredd oergell lle mae brechlynnau’n cael eu storio, gatiau a gridiau gwartheg, a monitro symudiad hyrddod.

“Dyma un o’r cyfleoedd mwyaf sydd gennym i wneud ffermydd yn fwy effeithlon, yn fwy diogel ac yn fwy iach”, meddai Rhodri Owen.

“Bydd y data a gynhyrchir o’r sensoryddion yma yn galluogi ffermwyr i wneud penderfyniadau gwell yn gynt.

“Dw i’n mawr obeithio gweld mwy o ffermwyr yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu rhaglenni gwerthfawr yn y dyfodol, gan fod y maes technoleg amaethyddol yn ffynnu mewn sawl rhan o’r byd ar hyn o bryd.