Gallai brechlynnau atgyfnerthu gynnig amddiffyniad da yn erbyn amrywiolyn Omicron, meddai arbenigwyr.

Dywedodd y tîm sy’n astudio effaith trydydd dos o’r brechlyn Covid ar ymateb y corff y gallai fod yn ddigon i gynnig amddiffyniad rhag salwch difrifol sydd angen triniaeth yn yr ysbyty a marwolaethau.

Mae’r astudiaeth hefyd yn cefnogi penderfyniad Llywodraethau’r Deyrnas Unedig i gynnig Pfizer neu Moderna fel y trydydd dos.

Dywedodd yr Athro Saul Faust, arweinydd y treial, fod astudiaeth CovBoost wedi dangos bod chwe gwahanol frechlyn yn ddiogel, ac yn effeithiol fel dosys atgyfnerthu i bobol sydd wedi cael dau ddos o AstraZeneca neu Pfizer/BioNTech yn barod.

Cafodd AstraZeneca, Pfizer, Moderna, Novovax, Janssen (sy’n cael ei wneud gan Johnson and Johnson), a CureVac (sydd ddim yn cael ei gynhyrchu bellach) eu profi.

“Hwb arwyddocaol”

“Mae ein hastudiaeth yn dangos hwb ystadegol arwyddocaol gan bob un o’r brechlynnau… roedd mRNA (Pfizer a Moderna) yn uchel iawn, ond roedd Novovax, Janssen ac AstraZeneca yn cynnig hwb effeithiol iawn hefyd,” meddai’r Athro Saul Faust.

Ychwanegodd bod y brechlynnau’n gweithio’n dda yn erbyn yr amrywiolion sydd ar led ar hyn o bryd, er na chafodd Omicron ei brofi yn yr astudiaeth.

Fodd bynnag, mae arbenigwyr yn credu y gallai imiwnedd celloedd-T – a gafodd ei astudio ochr yn ochr â gwrthgyrff yn yr ymchwil – chwarae rhan allweddol wrth gwffio’r amrywiolyn.

Mae celloedd-T yn gweithio ar y cyd â gwrthgyrff yn y system imiwnedd i dargedu firysau.

Mae samplau o’r astudiaeth wedi cael eu cyfeirio at Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig, sydd yn edrych ar sut y gall brechlynnau fod yn effeithiol yn erbyn Omicron.

“Newyddion gwych”

Dywedodd Jonathan Ball, athro firoleg foleciwlaidd, fod yr astudiaeth yn un “arbennig” a’i bod hi’n “wych gweld y data a oedd yn hollol ganolog wrth benderfynu ar ddull y Deyrnas Unedig gyda’r brechlynnau argyfnerthu”.

“Mae’r data’n dangos yn glir bod pob brechlyn atgyfnerthu wedi cynnig hwb i o leiaf un agwedd o’ch imiwnedd rhag Covid, a bod ychydig iawn o sgil effeithiau, ar y cyfan,” meddai’r Athro Jonathan Ball.

“Mae’r data hefyd yn dangos mai brechlynnau atgyfnerthu mRNA – fel Moderna a Pfizer – sydd yn fwyaf addas, waeth os gafoch chi mRNA neu AstraZeneca fel dosys cyntaf.

“Mae’r ffaith bod y brechlynnau atgyfnerthu mRNA yn achosi cynnydd amlwg mewn gwrthgyrff a chelloedd-T yn newyddion gwych, yn enwedig nawr, pan mae ein sylw wedi mynd tuag at ddyfodiad amrywiolyn Omicron.

“Dydyn ni dal ddim yn gwybod sut y bydd y cynnydd mewn imiwnedd yn cael ei adlewyrchu mewn amddiffyniad, yn enwedig yn erbyn afiechyd mor ddifrifol, ond dw i dal yn sicr bod ein brechlynnau’n parhau i gynnig yr amddiffyniad rydyn ni ei angen.”

Bydd mwy o ddata yn cael ei gyhoeddi ddechrau’r flwyddyn nesaf yn edrych ar effaith gadael bwlch hirach o amser rhwng ail a thrydydd dosys.

Ni chododd pryderon diogelwch gyda’r un o’r brechlynnau, meddai’r astudiaeth, gyda blinder, cur pen, a braich boenus ymhlith y sgil effaith mwyaf amlwg.