Dyma ddiweddariad dydd Iau (2 Rhagfyr) am gyfraddau Covid-19 pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at Dachwedd 28, yn seiliedig ar nifer y bobl sydd wedi profi’n bositif am Covid-19 naill ai mewn labordy neu gyda phrawf llif ochrol cyflym.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diwethaf (Tachwedd 29-Rhagfyr 2) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac nid yw’n adlewyrchu gwir nifer yr achosion.

Gwynedd yn parhau ar y brig, cynnydd yn Ynys Môn

Gwynedd sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru o hyd – a’r gyfradd uchaf-ond-un yn y Deyrnas Unedig – ond mae i lawr ychydig, o 882.8 i 865.2, gyda 1,083 o achosion newydd.

Bro Morgannwg sydd yn uchaf-ond-un yng Nghymru gyda 637.1 (i lawr o 649.0), ac Ynys Môn sy’n drydydd gyda 610.4, i fyny o 504.0.

Ceredigion sydd â’r gyfradd isaf – 229.1, i lawr o 268.9.

Cyfrifwyd y rhestr gan ddefnyddio data a gyhoeddwyd ar 2 Rhagfyr ar ddangosfwrdd coronafeirws y Llywodraeth.

Y rhestr lawn

O’r chwith i’r dde: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 28; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 28; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 21; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 21.

Gwynedd, 865.2, (1083), 882.8, (1105)

Bro Morgannwg, 637.1, (862), 649.0, (878)

Ynys Môn, 610.4, (430), 504.0, (355)

Sir Benfro, 536.5, (680), 548.3, (695)

Wrecsam, 502.7, (684), 557.9, (759)

Torfaen, 492.4, (467), 477.7, (453)

Sir y Fflint, 487.1, (764), 485.8, (762)

Casnewydd, 480.7, (752), 427.0, (668)

Caerdydd, 474.8, (1753), 500.5, (1848)

Pen-y-bont ar Ogwr, 454.8, (671), 435.8, (643)

Powys, 446.5, (594), 452.5, (602)

Sir Fynwy, 439.2, (418), 565.3, (538)

Caerffili, 438.6, (797), 445.7, (810)

Sir Gaerfyrddin, 428.8, (815), 485.1, (922)

Blaenau Gwent, 418.5, (293), 415.6, (291)

Rhondda Cynon Taf, 399.8, (967), 435.8, (1054)

Merthyr Tudful, 393.9, (238), 527.9, (319)

Sir Ddinbych, 393.1, (380), 484.2, (468)

Abertawe, 389.8, (961), 444.5, (1096)

Conwy, 377.4, (446), 398.5, (471)

Castell-nedd Port Talbot, 351.1, (507), 445.3, (643)

Ceredigion, 229.1, (167), 268.9, (196)