Mae cynghorwyr yng Ngwynedd wedi dangos eu cefnogaeth i gynlluniau i ddiwygio strwythurau Hunaniaith, sef Menter Iaith y Sir.

Daw’r drafodaeth yn dilyn argymhelliad gan Grŵp Strategol Hunaniaith i sefydlu’r fenter fel endid cyfreithiol annibynnol, gyda’r gwaith wedi ei wreiddio yn y gymuned.

Gwneir hynny er mwyn denu mwy o fuddsoddiadau ariannol a galluogi blaengynllunio yn hytrach nag dibynnu ar grantiau byrdymor Llywodraeth Cymru.

Yng nghyfarfod y cabinet, pleidleisiwyd yn unfrydol o blaid sefydlu tasglu er mwyn adnabod y camau angenrheidiol i greu achos busnes cadarn.

“Creu anifail hollol wahanol i’r Hunaniaith bresennol”

“Dydw i ddim yn credu bod Hunaniaith ar ei ffurf bresennol yn gynaliadwy a dydw i ddim yn credu bod Hunaniaith ar ei ffurf bresennol yn cyflawni’r hyn ’da ni isio iddo fo gyflawni,” meddai Dafydd Iwan, Cadeirydd Grŵp Strategol Hunanaith.

Er ei fod yn cydnabod goblygiadau a chymhlethdodau’r newid arfaethedig, teimlai y byddai’n ysgafnhau’r baich ar y Cyngor yn y pen draw.

“Holl bwynt y peth yw gwneud Hunaniaith – ac mi fyswn o blaid newid yr enw i Fenter iaith Gwynedd – yn fwy hunangynhaliol ac ychwanegu at yr arian sy’n dod gan y Llywodraeth drwy godi arian ein hunain.

“Mi fyddai’n creu anifail hollol wahanol i’r Hunaniaith bresennol a dwi’n credu bod hynny’n gwbl angenrheidiol os ydyn ni am gael y mudiad sy’n lledu i’r cymunedau.

“Mae ’na ddeinamig hynod o gryf ac iach yng nghymunedau Gwynedd gyda’r anturiaethau a mentrau cymdeithasol” meddai, “a dwi’n meddwl mai o blith y rheini y mae’r math o feddylfryd sydd ei angen i wthio’r ffiniau ieithyddol drwy’r sir.”

Grantiau tymor byr y Llywodraeth yn creu trafferthion

Ar hyn o bryd, mae tua 70% o gyllid Hunaniaith yn cael ei ddarparu drwy grant Lywodraeth Cymru tra bod 30% yn dod gan Gyngor Gwynedd, yn ôl Llywela Owain, Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu.

O ystyried bod y cais grant gan amlaf yn cael ei gyflwyno yn flynyddol, dywedodd bod blaengynllunio yn gallu bod yn heriol.

Yn ôl y Cynghorydd Dilwyn Morgan, mae’r anhawster hwn yn cael ei adlewyrchu ar draws adrannau’r Cyngor:

“Mae’r gwaith mae Hunaniaith wedi ei wneud, a’r gwaith mae’r staff wedi ei wneud – mewn amgylchiadau anodd… ac un o’r rheini, wrth gwrs yw’r busnes grant tymor byr.”

“Mae hynny’n broblem ar draws y Cyngor ac yn gwneud hi’n anodd i staff sy’n gweithio ar gytundebau tymor byr.”

Yn ôl y Cynghorydd Gareth Thomas, gall corff annibynnol “ddenu cyllid o nifer o wahanol lefydd wyrech fyddai’r Cyngor ddim – a bod yn greadigol yn y math o brosiectau maen nhw yn rhedeg er mwyn denu cyllid o gyfeiriadau gwahanol.”

Angen “rhoi bywyd newydd i’r endid”

“Mae ’na wbath i’w ddweud am ryw endid bychain sydd wedi gwreiddio mewn cymuned achos cymuned o gymunedau ydyn ni mae’n debyg,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig.

“Pan sefydlwyd Hunaniaith degawd yn ôl, mae’n debyg bod ’na reswm da pam oedd o’n rhan o’r Cyngor a dyna oedd y lle iddo fo ar y pryd – ac mae wedi gwneud gwaith da dros y cyfnod yn bendant.”

“Ond tancer mawr ydi’r Cyngor” meddai, “ac ar hyn o bryd dwi’n gweld Hunaniaith fel ryw gwch bach sy’n sownd hefo rhaff yn y tancer – yn mynd i’r cyfeiriad mae’r Cyngor isio mynd.

“Mae’n debyg bod o’n fwy o ryw linyn bogail ar hyn o bryd, achos mae’n cael ei gynnal ond dwi’n meddwl bod isio rhoi bywyd newydd i’r endid, i’r cwch bach a gwneud yn siŵr bod o’n gallu hwylio yn braf ac yn gryf cyn torri’r rhaff.”

Llawer iawn o waith i’w wneud

Yn ôl y Cynghorwyr, mae yna ddyletswydd aarnynt i sicrhau seiliau hollol gadarn ac achos busnes i Hunaniaith wrth symud ymlaen.

“Mae ’na lawer iawn o waith sydd angen ei wneud cyn bod modd i ni symud ymhellach,” meddai Llywela Owain.

“Dwi’n meddwl bod hi’n bwysig iawn i ni ystyried y manteision ac yr anfanteision gan gynnwys y risgiau… Ond yn sicr, mae ’na gyfleoedd yma.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg.: “Yn bendant mae ’na gyfleoedd a buddion er mwyn creu bwrlwm ac arweiniad yn y Gymuned a drwy hynny, galluogi i Hunaniaith i weithredu mewn modd hyd yn oed yn fwy effeithlon yn y dyfodol.”