Mae rhedwr ultra o Benarth wedi llwyddo i redeg Llwybr Arfordir Cymru mewn ychydig dros 20 diwrnod.

Torrodd Rhys Jenkins y record o redeg 870 milltir ar hyd y llwybr neithiwr (nos Lun, Awst 10).

Fe ddechreuodd yng Nghaer ar Orffennaf 21, a chyrraedd Cas-gwent mewn 20 diwrnod, 10 awr a 38 munud.

Ar hyd ei daith, bu’n rhaid iddo ddringo cyfwerth â 4.5 gwaith uchder Everest.

Hyd yn hyn, mae wedi codi £4,500 ar gyfer tair elusen wahanol.

“Mae’r her yma ar gyfer tair elusen sy’n hynod agos a phersonol i mi, fy ngwraig a fy mam. Mae’r CF Warriors, NSPCC a Maggie’s Caerdydd i gyd yn achosion anhygoel a fydd yn fy nghadw i symud i’r de yn ystod yr amseroedd anodd,” meddai Rhys Jenkins.

Dros y deng mlynedd diwethaf, mae’r rhedwr 32 oed wedi codi dros £100,000 i elusennau gwahanol.

Gŵr o Seland Newydd, James Harcombe, oedd yn dal y record ers Mai 2017, ac fe redodd y llwybr mewn 20 diwrnod 12 awr a 55 munud.

“Dwi’n brifo heddiw”

Wrth siarad â BBC Radio Wales bore dydd Mawrth (Awst 11), fe wnaeth Rhys Jenkins ddiolch i’w wraig a’i deulu am eu cefnogaeth.

“Dwi’n brifo heddiw,” meddai.

“Er i mi gael adrenalin ddoe i gwblhau’r her, dwi nawr yn teimlo fel fy mod wedi rhedeg i mewn i wal!

“Ar adegau roedd hi’n galed iawn ac roedd y tywydd yn ofnadwy. Roedd hi’n gallu bod yn anwastad iawn.

“Roedd yna un diwrnod o redeg – y diwrnod gwastad – ond mewn gwirionedd roedd yr uchder ddwywaith yn uwch na’r wyddfa, felly roedd hynny yn dipyn o syndod i mi.”